Môn Ewrop - Yr Ynys o Ddewis
Chwilio

Logo Cyngor Sir Ynys Môn

 
Lleoliad Presennol: cartref

Croeso i wefan Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn

Ein nod yw darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Amcan 1 yr UE ym Môn a gweithgareddau Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn (PAEYM).

PAEYM, a ffurfiwyd ym 1998, yw prif bartneriaeth adfywio economaidd yr ynys, ac mae'n un o'i phartneriaethau strategol.  Mae ganddi gyfrifoldeb dros yr ynys gyfan ac mae iddi rôl ffurfiol o fewn y broses o weithredu rhaglen Amcan 1 yr UE.

Yn ystod 2002, fe ehangodd PAEYM ei rôl i ddarparu cyfeiriad strategol i weithgareddau adfywio economaidd ym Môn.  Ym 2004, mabwysiadodd PAEYM strategaeth hirdymor newydd a fydd yn darparu'r sail ar gyfer ymagwedd integredig tuag at adfywio economaidd ledled yr ynys hyd at 2015.

Gweledigaeth PAEYM yw "Creu dyfodol ffyniannus ar gyfer Ynys Môn drwy adfywio economaidd cynaliadwy."   

Hyrwyddwch eich busnes

Hyrwyddwch eich busnes trwy gofrestru ar www.gwerthwchigymru.co.uk

Trwy ddefnyddio gwerthwchigymru gall cyflenwyr greu a rheoli proffil manwl ar linell, a hynny’n cynnwys polisïau’r cwmnïau, eu cyfrifon, a wedyn gall prynwyr y sector cyhoeddus i gyd gweld y rheini, a chofrestru gyda’r chwaer-safle ‘prynwchigymru’.

Mae’r wefan gwerthwchigymru yn rhan bwysig o Fenter Gaffael Cymru.  Hefyd mae’n rhoddi i fusnesau o Gymru wybodaeth am gyfleon tendro, a gall asiantaethau caffael ddod o hyd i ragor o wybodaeth am fusnesau Cymru.

Mae gwerthwchigymru yn wasanaeth rhad ac am ddim a ddarperir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae prynwchigymru www.prynwchigymru yn gyfleuster caffael ar linell cenedlaethol ac yn rhan o Fenter Caffael Cymru – bydd yr holl wybodaeth am gontractau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ymddangos ar y wefan PrynwchiGymru.





Diwygiad Diweddaraf: 01/06/2009
 

Map o Brydain yn dangos lleoliad Ynys Môn

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057