Rydym wedi ein cynghori bod rhai busnesau a mudiadau lleol wedi profi anawsterau gyda'i gwasanaeth cofrestru cyfeiriad safle gwe.
Dylai pob busnes, mudiad neu grŵp sydd wedi prynu a chofrestru cyfeiriad gwe sy’n adlewyrchu ei busnes neu’i mudiad sicrhau bod y cyfeiriad wedi’i gofrestru yn eu henw, dim yn darfod a'u bod yn cyfeirio at y safle gwe gywir. Os yw’r safle gwe ddim ar gael neu ddim wedi’i hadeiladu dylid adeiladu tudalen aros i sicrhau bod y cyhoedd ddim yn cael ei arall gyfeirio at un o’r safleoedd gwe “parcio” cyfeiriadau gwe.
Mae hefyd yn synhwyrol i brynu pob fersiwn o’r cyfeiriad gwe fel enghraifft .com, .org, .org.uk ayyb ac i sicrhau bod y gwasanaeth cyfeirio yn eu cyfeirio at y safle gwe briodol. Mae hyn yn sicrhau na ddyled y cyfeiriad gwe gael ei brynu gan gwmni neu fudiad arall a ni fydd y cyhoedd yn cael eu camarwain am natur y gwasanaethau a ddarperir.