Bydd mwy o ymwelwyr a thrigolion lleol yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau o amgylch yr arfordir wrth I £200,000 gael ei glustnodi ar gyfer gwelliannau.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn bwriadu gwneud gwelliannau i'r cyfleusterau arfordirol presennol ym Moel y Don, ger Brynsiencyn, a Porth Llechog, ger Amlwch.
Bydd y gwaith ym Moel y Don yn cynnwys atgyweirio a gwelliannau i'r lanfa gerrig presennol a gaiff y cynlluniau eu harddangos yn Neuadd Gymuned Brynsiencyn ar Chwefror 8fed 2010, rhwng 3.00pm a 6.00pm.
Mae'r gwelliannau arfordirol ym Mhorth Llechog yn cynnwys uwchraddio'r llithrfa bresennol, newidiadau i'r wal fôr, a gwelliannau amgylcheddol i'r man eistedd gerllaw.
Bydd gan aelodau'r cyhoedd gyfle i weld cynlluniau'r gwaith arfaethedig yng Nghlwb Golff Porth Llechog ar ddydd Mercher, Chwefror 10fed, rhwng 3.00pm a 7.00pm.
Bydd gwaith y gwelliannau arfordirol yn cychwyn yn y ddau leoliad yn ystod mis Chwefror.
Mae'r ddau gynllun yma'n rhan o Brosiect Amgylchedd Arfordirol y Cyngor Sir, fydd yn golygu gwelliannau isadeiledd werth oddeutu £5.6m.
Eglurodd y deilydd portffolio Datblygu Economaidd a Thwristiaeth, y Cynghorydd Bryan Owen, "Drwy ddatblygu isadeiledd yr arfordir, bydd y prosiect yma yn elwa'r Ynys yn nhermau ei apêl a'i enw da fel atyniad twristiaeth, ac yn gwella cyfleusterau fydd yn y pendraw yn gwella ansawdd y pentrefi a threfi hynny o amgylch ein harfordir."
Mae cyllid ar gyfer y Prosiect Amgylchedd Arfordirol wedi ei gymeradwyo gan Raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd - Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop; Rhaglen Môn a Menai a Chronfa Arian Cyfatebol Llywodraeth Cynulliad Cymru a hefyd gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Am ragor o fanylion, cysylltwch os gwelwch yn dda gydag Uned Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn ar (01248) 752480 / 2435.
DIWEDD 29.1.10
Am ragor o fanylion: cysylltwch gyda Swyddfa'r Wasg - dilynwch y linc isod.