Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
map y safle | testun yn unig | English
Môn Ewrop - Yr Ynys o Ddewis
Chwilio

 
Lleoliad Presennol: | newyddion

Rhybudd cyhoeddus: cychod a threlars ym maes Parcio Porth Llechog

Gyda hyn bydd y Cyngor yn mynd ati i wneud gwaith gwella sylweddol ar y cyfleusterau lansio cychod ym Mhorth Llechog a hynny fel rhan o Brosiect Amgylchedd Arfordirol Ynys Môn.

Fel rhan o’r gwaith byddwn yn rhoddi sylw i’r cyfleusterau lansio, y wal fôr, stepiau i lawr, amddiffyniad rhag llifogydd a llecyn i eistedd.

Mae’r Cyngor trwy hyn yn rhoddi rhybudd i berchenogion cychod a threlars sy’n cael eu storio yn y maes parcio y bydd raid i ni wneud defnydd dros dro o ryw hanner y maes parcio i bwrpas gosod cabanau’r contractwyr yno tra bydd y gwaith. Bwriedir dechrau ar y gwaith erbyn diwedd Ionawr 2010 a bydd wedi’i gwblhau erbyn diwedd Mai 2010.

Bydd raid aildrefnu’r cychod a’r trelars i glirio’r ardal a diolch i chwi ymlaen llaw am bob cydweithrediad. Felly mae’r Cyngor yn gofyn i bob perchennog cwch / trelar sydd yn y maes parcio gysylltu gyda’r Adain Arforol Cyngor Sir Ynys Môn erbyn 8 Ionawr, 2010 i wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Os ydych yn dymuno rhagor o wybodaeth ynglyn â’r gwaith yma, cysylltwch gyda: Swyddog Arforol - 01248 752320




Diwygiad Diweddaraf: 04/01/2010
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057