Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
map y safle | testun yn unig | English
Môn Ewrop - Yr Ynys o Ddewis
Chwilio

 
Lleoliad Presennol: | newyddion

Gwaith adeiladu i wella cyfleusterau arfordirol Porth Amlwch

Dyma rybudd fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi dechrau gwaith adeiladu i wella cyfleusterau arfordirol Porth Amlwch.

Yr isod yw’r datblygiadau arfaethedig:

  • gwelliannau llithrfa a gwelliannau cyffredinol i waliau’r harbwr

Bydd yr holl waith yn gwella cyflwr ac ansawdd isadeiledd arfordirol Porth Amlwch, a hynny wedyn yn creu cyfleoedd gwell a mwy diogel i bobl gael mynediad i’r ardaloedd arfordirol.

Mae’r gwaith adeiladu yn dechrau ar 2il o Dachwedd 2009, a disgwylir cwblhau’r llithrfa o fewn 8 wythnos. Mi fydd gwelliannau i waliau’r harbwr yn parhau tan oddeutu Mis Mawrth, 2010.

Ni fydd mynedfa i’r llithrfa yn ystod y cyfnod mae’r gwaith adeiladu yn mynd ymlaen a mi fydd mynedfa gyfyngedig i’r harbwr tra mae gwaith ar waliau’r harbwr.

Mae Digwyddiad Gwybodaeth Cyhoeddus wedi ei drefnu yn Neuadd Goffa, Amlwch ar Tachwedd 11eg, 2yh – 7yh.

Pwrpas y digwyddiad ydy rhoi gwybod i’r cyhoedd am y gwaith ym Mhorth Amlwch ac i’r cyhoedd gael cyfle i drafod neu ofyn cwestiynau ynglŷn â’r gwaith fel rhan o’r Prosiect Datblygu Arfordir Ynys Môn.

Os ydych yn dymuno rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r gwaith uchod, plîs cysylltwch gyda:

Christian Branch
Uned Datblygu Economaidd
Canolfan Fusnes Ynys Môn
Parc Busnes Bryn Cefni
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7XA

Ffôn: 01248 752435




Diwygiad Diweddaraf: 18/11/2009
 

Darllenydd Adobe Acrobat

Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057