Mae Partneriaeth Adfywio Economaidd Ynys Môn (PAEYM) yn cydnabod yr angen i ehangu ei maes ac i ddarparu cyfeiriad strategol i weithgareddau adfywio economaidd yr ynys.
Bellach, PAEYM yw un o'r partneriaethau strategol allweddol sy'n cyfrannu tuag at gyflawni Cynllun Cymunedol yr ynys.
Mae holl weithrediadau partneriaethau strategol yr ynys yn bwydo i mewn i'r Cynllun Cymunedol a gytunwyd sydd wedi'i ddatblygu gan y Bartneriaeth Sirol Strategol. Mae gan PAEYM felly rôl bwysig i'w chwarae yn y broses hon trwy ganolbwyntio ar y Strategaeth Adfywio Economaidd, sef y nod strategol allweddol cyntaf yn y Cynllun Cymunedol.
O'r cychwyn, bu PAEYM yn canolbwyntio ar gydweithio i ddefnyddio gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau ei phartneriaid i adfywio'r economi leol ac i gyflawni dyheadau'r gymuned.
Nid oes gan PAEYM unrhyw bwerau gweithredol; yr unig fodd y gall ddylanwadu ar y gweithgareddau yw trwy ei chefnogaeth i'r prosiectau sy'n ceisio nawdd Amcan 1 yr UE (a nawdd arall hefyd erbyn hyn). Fel arall, yn ei gallu i ddylanwadu ar waith cyrff sy'n bartneriaid iddi y mae ei phŵer.
Hwylusir PAEYM gan Uned Datblygu Economaidd y cyngor sir ac fe'i hariannir trwy Gymorth Technegol Ewropeaidd.